Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Gorffennaf
Portffolios a Chyfrifoldebau’r Pwyllgorau yn y 4ydd
Cynulliad
Rhagymadrodd
1. Ar 22 Mehefin, cymeradwyodd y Cynulliad gynigion i sefydlu ei system o bwyllgorau.
2. Mae’r Rheolau Sefydlog yn ei gwneud yn ofynnol i holl feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth fod yn agored ar gyfer gwaith craffu o dan system bwyllgorau’r Cynulliad. Gan hynny, ni ddylai maes cyfrifoldeb yr un Gweinidog fod y tu allan i gyrraedd o leiaf un o bwyllgorau’r Cynulliad i gael ei archwilio. Ar yr un pryd, mae’r Pwyllgor Busnes yn bwriadu caniatáu ar gyfer archwiliadau trawsbynciol yn holl feysydd cyfrifoldeb y llywodraeth. Felly, er bod yr adroddiad hwn yn nodi’r prif bwyllgor ym mhob un o feysydd bras cyfrifoldebau’r Gweinidogion, mae pob pwyllgor yn rhydd i ystyried unrhyw fater o’u safbwynt penodol nhw.
3. Gellir crynhoi rolau craidd system bwyllgorau’r Cynulliad fel a ganlyn:
· craffu ar Filiau ac ar gynigion deddfwriaethol eraill y Cynulliad, y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd, gan gyflwyno adroddiadau i’r Cynulliad gydag argymhellion ynghylch gwella’r rhain, ac ystyried a gwneud gwelliannau i Filiau;
· edrych ar gyllid a pherfformiad rhannau perthnasol o Lywodraeth Cymru, y cyrff cyhoeddus perthynol a chyrff eraill sy’n berthnasol i Gymru; ac
· ystyried a chyflwyno adroddiadau ar weithredu polisïau, deddfau ac ymrwymiadau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys nodi a chraffu ar feysydd polisi presennol neu newydd Llywodraeth Cymru, neu feysydd lle mae’r polisi presennol yn ddiffygiol, a gwneud cynigion ar gyfer gwelliannau.
4. Mae’r adroddiad hwn yn nodi cylchoedd gorchwyl y gwahanol bwyllgorau’n fanylach.
Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
5. Rôl y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.
Hawliau a hawlogaethau plant a phobl ifanc Tlodi plant Gofal cymdeithasol i blant Iechyd plant Gwasanaethau mabwysiadu a maethu Chwarae Rhieni a theuluoedd Gofal plant Comisiynydd Plant Cymru Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS) Amddiffyn plant Ysgolion, gan gynnwys safonau addysgu, cwricwlwm, llywodraethiant ac effeithiolrwydd Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog Anghenion dysgu ychwanegol Cynhwysiant mewn ysgolion Presenoldeb ac ymddygiad plant Addysg y blynyddoedd cynnar Dysgu 14-19 Gwaith ieuenctid Materion polisi perthnasol yr UE |
Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd
6. Rôl Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.
Amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd Adnoddau, rheolaeth ac ansawdd dŵr (gan gynnwys yr amgylchedd morol) Bywyd gwyllt, bioamrywiaeth a chadwraeth natur Y Parciau Cenedlaethol Cefn gwlad a mannau agored Coedwigaeth Rheoli gwastraff Y polisi egni a thlodi tanwydd (gan gynnwys dur a glo) Iechyd a lles anifeiliaid Cynllunio a Rheoliadau Adeiladu Newid yn yr hinsawdd Datblygu cynaliadwy Y Polisi Amaethyddol Cyffredin Materion polisi perthnasol yr UE |
Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
7. Rôl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gofal cymdeithasol Gwasanaethau iechyd meddwl Iechyd y cyhoedd a diogelu iechyd Gwella iechyd Gofalwyr Gweithgareddau’r awdurdodau lleol ym maes gwasanaethau cymdeithasol Rheoleiddio lleoliadau preswyl, lleoliadau mewn cartrefi a lleoliadau i oedolion Cynorthwyon, addasiadau a chymorth yn y cartref Byw yn annibynnol Gofal yn y gymuned Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Diogelwch bwyd Ymchwilio a datblygu mewn iechyd a gofal cymdeithasol Gwasanaeth iechyd y gwasanaeth carchardai Materion polisi perthnasol yr UE
|
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
8. Rôl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.
Tai a gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thai Digartrefedd a chyngor ar dai Tai fforddiadwy (gan gynnwys eu hansawdd) Llywodraeth Leol a Chymunedau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gwella’r gwasanaethau cyhoeddus Cyfle cyfartal Trais domestig Lloches, mewnfudo a gweithwyr mudol Cydlynedd cymunedau Diogelwch cymunedau Sipsiwn a theithwyr Diwylliant Y Gymraeg Treftadaeth Cymru a’r amgylchedd hanesyddol ac adeiladau Amgueddfeydd, llyfrgelloedd cyhoeddus ac archifau Y celfyddydau Twristiaeth Chwaraeon, gweithgarwch corfforol a hamdden weithredol Gwasanaethau Tân ac Achub Argyfyngau Sifil Darlledu Materion polisi perthnasol yr UE |
Y Pwyllgor Menter a Busnes
9. Rôl y Pwyllgor Menter a Busnes yw ystyried y materion gwariant, gweinyddiaeth, polisi a deddfwriaeth yn eu cylch gorchwyl. Mae prif feysydd cyfrifoldeb y gweinidogion sy’n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor wedi’u rhestru isod.
Busnes a menter, gan gynnwys buddsoddi o’r tu allan / allforio Ymchwilio, datblygu ac arloesi Addysg uwch Technoleg a gwyddoniaeth Adfywio strategol, adfywio ffisegol ac adfywio’r gwaddol Cyflogaeth Datblygu’r gweithlu Sgiliau Cymwysterau galwedigaethol NEETS Dysgu cymunedol i oedolion a dysgu yn y gwaith Cyflogadwyedd a chyngor gyrfaoedd Diwygio lles Seilwaith TGCh Cludiant Menter gymdeithasol Rhaglenni cronfeydd strwythurol yr UE Materion polisi perthnasol yr UE |
Y Pwyllgor Cyllid
10. Rôl y Pwyllgor Cyllid yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 19. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut mae Comisiwn y Cynulliad neu Weinidogion Cymru’n defnyddio adnoddau ac yn benodol cyflwyno adroddiadau yn ystod cylch y gyllideb flynyddol. Mae’r Pwyllgor hefyd yn cael ystyried unrhyw fater arall sy’n ymwneud â gwariant o Gronfa Gyfunol Cymru.
11. O ran archwilio goblygiadau ariannol Biliau, mae’r Pwyllgor Busnes o’r farn y dylai’r Pwyllgor ddewis a dethol, gan hoelio sylw ar graffu ar y Biliau sydd â’r arwyddocâd ariannol mwyaf, a chymryd trosolwg strategol ar faterion ariannol sy’n ymwneud â deddfwriaeth.
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
12. Rôl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yw cyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 18. Bydd y Pwyllgor yn ystyried adroddiadau a baratoir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynghylch cyfrifon Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ac ynghylch darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio adnoddau i gyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor hefyd yn cynnwys pwerau statudol penodol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ynglŷn â phenodi’r Archwilydd Cyffredinol, cyllideb yr Archwilydd Cyffredinol ac archwilwyr y swydd honno.
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
13. Rôl y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yw cyflawni swyddogaethau penodol y pwyllgor cyfrifol yn Rheol Sefydlog 21 ac ystyried unrhyw fater cyfansoddiadol neu lywodraethol o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu ynglŷn â’r cymhwysedd hwnnw. Mae hyn yn cynnwys ystyried offerynnau statudol, offerynnau statudol drafft, unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a gyflwynir gerbron y Cynulliad, Biliau’r Cynulliad a’r Deyrnas Unedig yn ogystal â chylch gorchwyl ehangach i ystyried goblygiadau deddfwriaeth ddrafft yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer sybsidiaredd a materion cyfansoddiadol eraill. Yn benodol, mae gan y Pwyllgor drosolwg hefyd ar swyddogaethau Prif Weinidog Cymru fel y mae’r rheiny’n ymwneud â materion cyfansoddiadol neu faterion cyffredinol y llywodraeth.
Y Pwyllgor Deisebau
14. Rôl y Pwyllgor Deisebau yw pwyso a mesur yr holl ddeisebau derbyniadwy a gyflwynir gan y cyhoedd. Mae swyddogaethau penodol y Pwyllgor wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 23.
Y Pwyllgor Safonau
15. Rôl y Pwyllgor Safonau yw cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 22. Mae’r rhain yn cynnwys ymchwilio i gwynion a gyfeirir ato gan y Comisiynydd Safonau, ystyried unrhyw faterion o egwyddor ynglŷn ag ymddygiad Aelodau, sefydlu’r gweithdrefnau at ymchwilio i gwynion a’r trefniadau ar gyfer y Gofrestr o Fuddiannau’r Aelodau a chofnodion cyhoeddus eraill a bennir gan y Rheolau Sefydlog.
Materion Ewropeaidd ac Allanol
16. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i brif-ffrydio materion polisi Ewropeaidd ar draws y pwyllgorau yn hytrach na chael un pwyllgor dynodedig. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fydd yn gyfrifol am wiriadau i fonitro sybsidiaredd yn ogystal ag ystyried unrhyw fater deddfwriaethol neu lywodraethol arall o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu ynglŷn â’r cymhwysedd hwnnw.
Adolygu
17. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i adolygu sut mae’r system bwyllgorau’n gweithio yn 2012. Fel rhan o’r adolygiad, bydd yn ystyried effaith y penderfyniad i brif-ffrydio materion Ewropeaidd.
Rôl cadeiryddion y pwyllgorau
18. Mae cadeiryddion y pwyllgorau’n chwarae rhan hanfodol i wireddu amcanion strategol y Cynulliad. O gofio hynny, a’r ffaith bod pob Cadeirydd yn cael ei ethol gan y Cynulliad cyfan, rydyn ni o’r farn ei bod yn briodol nodi’n fanylach y rôl y mae’n rhaid i gadeiryddion y pwyllgorau ei chyflawni ar ran y Cynulliad.
19. Cyfrifoldebau allweddol cadeiryddion y pwyllgorau yw:
· pennu cyfeiriad strategol y pwyllgor a sicrhau bod yna flaenoriaethau tryloyw i’w weithgareddau er mwyn gwireddu rhaglen gytbwys, gynhwysfawr ac effeithiol o waith craffu ar ddeddfau, polisïau a chyllid;
· codi perthnasedd a dylanwad y pwyllgor i’r eithaf gan gadw ei annibyniaeth bendant oddi wrth Lywodraeth Cymru;
· gweithredu’n ddiduedd bob amser, yn bendant, yn deg ac mewn modd sy’n ennyn hyder y pwyllgor;
· ennyn hyder Aelodau, tystion a’r cyhoedd yn gyffredinol drwy feistroli’r pwnc sydd o dan sylw yng nghylch gwaith y pwyllgor; dangos technegau effeithiol mewn gwaith craffu ar ddeddfau, polisïau a chyllid; cadw trefn; a chymhwyso’r holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol sy’n berthnasol i’r pwyllgor;
· sicrhau ymroddiad ac ymrwymiad pob aelod o’r pwyllgor ac adeiladau consensws ar draws y pleidiau pryd bynnag y bo modd;
· adeiladu’r cymysgedd o ddiwylliant a medrau yn y pwyllgor sy’n angenrheidiol i’w wneud mor effeithiol â phosibl fel corff sy’n gwneud gwaith craffu;
· sicrhau bod y pwyllgor yn cael y cyngor arbenigol, yr wybodaeth a’r cymorth arall y mae arno ei angen i gyflawni ei amcanion yn effeithiol;
· rhoi hwb i gyflawni pob agwedd ar waith y pwyllgor gyda chyflymder ac ansawdd;
· cynrychioli’r pwyllgor yn gyhoeddus, yn y cyfryngau ac ym musnes ffurfiol y Cynulliad; a
· sicrhau bod gwaith y pwyllgor yn cael ei ddadansoddi a’i gloriannu’n feirniadol gan sbarduno arloesed yn ei waith er mwyn cynyddu ei effeithiolrwydd, ei ymgysylltiad cyhoeddus a’i effaith.